Jonathan Richards – gitâr gyda Phibgyrn Syrinx

  • Jonathan: Dowland, Tansman, Tarrega ac eraill
  • Syrinx: o Elisabethaidd i jazz
  • Jonathan + Syrinx: Concerto gitâr Vivaldi
Mae Jonathan yn gitarydd medrus sydd wedi ymweld â ni sawl gwaith dros y blynyddoedd. Heno mae’n dychwelyd gyda cherddoriaeth yn deillio o’r oes Elisabethaidd hyd at y cyfnod jazz ar ddechrau’r 20fed ganrif. Aelodau’r Syrinx ydy Catherine Robinson (Cyfarwyddwr), Alan Collins, Carolyn Sherlock a Joy Shutt.