Cyngerdd Cerddorion Ifanc

Digwyddiad sy’n cynnig llwyfan i rai o’r cerddorion talentog diweddaraf a mwyaf dawnus o bob cwr o Ogledd Cymru wrth iddyn nhw geisio dilyn gyrfaoedd yn y byd cerddoriaeth.
Dros y blynyddoedd bu i gerddorion ifanc rhyfeddol gamu ar ein llwyfan i’n diddori. Mae Llŷr Williams yn enghraifft rhagorol.
Eleni, croeso i Mariel Havard Griffiths, telyn, Louie McIver, ffidil a Lewis Marron, piano. Hefyd bydd Ellis Thomas (gwelwch y cyngerdd nesaf) yn cyfeilio i Fu Doble, soprano, Gwydion Rees, cello, Ynyr Pritchard viola a Callum Thomas, cello
